Ffeil-O-Ffaith Atebion

English




Ffeil-O-Ffaith y Planedau
Mercher Gwener Y Ddaear Mawrth Iau Sadwrn Wranws Neifion

Atebion

Mercher:

  1. Pam fod tymheredd arwyneb Gwener yn uwch na thymheredd arwyneb Mercher?
    Mae gan Wener atmosffer llawer mwy trwchus er mwyn dal gwres yr Haul.
  2. Sawl blwyddyn Mercher sydd mewn pump o flynyddoedd y Ddaear?
    (Diwrnodau'r Ddaear mewn blwyddyn x 5) ÷ 88. Noder: Mewn gwirionedd, ceir 365.25 diwrnod mewn blwyddyn Ddaear (dyna pam y ceir blwyddyn naid unwaith bob pedair blynedd). Felly, (365.25 x5) ÷ 88 = 20.75
  3. Pam nad oes gan Fercher leuad?
    Mae'r ffaith fod Mercher mor agos at ddisgyrchiant yr haul yn golygu na all dim barhau i gylchdroi o gwmpas y blaned yn naturiol.
  4. Ar sail ein dealltwriaeth bresennol, pam nad oes modd i fywyd oroesi ar Fercher?
    Atmosffer tenau, dim dŵr, rhy boeth, ac mae'r nos yn para 88 diwrnod Daear ar y tro.

Gwener

  1. Pam na fydd bodau dynol yn glanio ar Wener yn y dyfodol agos?
    Mae'n rhy boeth, mae hi'n bwrw asid sylffwrig, ac mae ganddi atmosffer trwchus iawn fydd yn anodd i symud drwyddo
  2. Sut gallwn ni ddefnyddio Gwener fel enghraifft o baham y dylem osgoi cynyddu'r effaith tŷ gwydr ar y Ddaear?
    Carbon deuocsid (sy'n nwy tŷ gwydr) sy'n ffurfio 96% o atmosffer Gwener ac mae'n dal cymaint o wres yr haul nes bod tymheredd arwyneb y blaned hyd yn oed yn uwch na Mercher.
  3. Pa mor hir yw 5 blwyddyn Daear mewn Diwrnodau Gwener?
    (365.25 x 5) ÷ 243 = 7.515. Noder: Mewn gwirionedd ceir 365.25 diwrnod mewn blwyddyn Daear (dyna pam y ceir blwyddyn naid unwaith bob pedair blynedd).
  4. Beth fyddai'n rhaid ei ystyried wrth ddewis defnyddiau ar gyfer cerbyd ar Wener?
    Rhaid iddo wrthsefyll asid a gwres. Hefyd, byddai'n rhaid cael mwy o bŵer er mwyn gyrru drwy'r 'aer' mwy trwchus.

Y Ddaear

  1. Er bod gennym flwyddyn naid bob pedair blynedd rydym yn dal i golli 0.006 diwrnod fesul cylchdro. Faint o amser y bydd yn ei gymryd nes y byddai angen blwyddyn naid ddwbl?
    1 ÷ 0.006 = 166.67 o flynyddoedd. Felly, gyda'n system galendr bresennol, byddai angen blwyddyn naid ychwanegol arnom bob 166.67 o flynyddoedd.
  2. Beth yw'r nwy trydydd mwyaf cyffredin yn atmosffer y Ddaear?
    Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dyfalu Carbon Deuocsid. Ond, yr ateb cywir yw Argon.
  3. Pam mae'r atmosffer ar y Ddaear yn haws i symud drwyddo na'r atmosffer ar Gwener?
    Mae aer y Ddaear yn fwy tenau nag aer Gwener sy'n ei gwneud yn haws symud trwyddo.
  4. Rhowch dri rheswm pam fod cael nifer gynyddol o loerennau yn cylchdroi o amgylch y Ddaear yn beth gwael.
    Llygredd golau sy'n cuddio'r sêr i seryddwyr
    Mwy o risg o loerenni yn anafu pobl pan fydd eu horbitau yn dadfeilio
    Risg uwch o wrthdrawiad rhyngddynt
    Mae'n anos plotio taflwybrau a threfnu i lansio cerbydau gofod eraill i'w hosgoi

Mawrth

  1. Pam mae Mawrth ymhlith y planedau sydd wedi cael y nifer mwyaf o ymweliadau gan longau ofod o'r Ddaear?
    Hon yw'r ail blaned agosaf wrth iddi fynd heibio (dim ond Gwener sy'n agosach wrth iddi fynd heibio). Mawrth yw'r fwyaf croesawus o blith ein cymdogion hefyd, ac felly mae'n fwy addas ar gyfer gwladychu posib.
  2. Sawl blwyddyn y Ddaear sydd mewn deng mlynedd ar Fawrth?
    (10 x 687) ÷ 365.25 = 18.81 Blynyddoedd Daear. Noder: Mewn gwirionedd, ceir 365.25 diwrnod mewn blwyddyn Daear (dyna pam y ceir blwyddyn naid unwaith bob pedair blynedd).
  3. Pam mae lleuadau Mawrth y rhai lleiaf eu maint yng nghysawd yr haul?
    Mae disgyrchiant Mawrth yn is na disgyrchiant y Ddaear ac o'r herwydd ni all gynnal lleuadau mor fawr â'n lleuad ni yn ei horbit.
  4. Pam mae ymchwilwyr yn gobeithio dod o hyd i ryw fath o fywyd (yn fyw, neu dystiolaeth o fywyd y gorffennol) ar Fawrth? Mae 'bywyd' yn golygu unrhyw fathau o bethau byw - gan gynnwys bacteria a firysau.
    Mae dŵr ar y blaned, un o brif anghenion bywyd, ac nid yw ei thymereddau'n rhy eithafol ychwaith i ffurfiau bywyd mwy gwydn oroesi.

Iau

  1. Os yw Ganymede yn fwy na Mercher, pam y'i gelwir yn lleuad yn hytrach na phlaned?
    Mae'n cylchdroi o amgylch planed, sy'n ei wneud yn lleuad. Er mwyn bod yn blaned, byddai'n rhaid iddo gylchdroi o amgylch seren.
  2. Sawl diwrnod Iau sydd mewn blwyddyn Iau?
    Cam 1: 10 awr ÷ 24 awr = 0.417 diwrnod Daear mewn diwrnod Iau
    Cam 2: 12 x 365.25 = 4383 diwrnod Daear mewn 12 blwyddyn Ddaear
    Cam 3: 4383 ÷ 0.417 = 10,510.79 Diwrnod Iau mewn Blwyddyn Iau
  3. Pam nad yw NASA am fentro gyrru cylchdröwr, a allai gludo microbau'r Ddaear, i mewn i un o brif leuadau Iau?
    Ceir arwyddion o ddŵr ar o leiaf dair o'r lleuadau hyn a pherygl y gallai microbau o'r Ddaear oroesi ar y lleuadau hyn a'u 'heintio'. Byddai'n drychinebus pe bai bywyd sydd eisoes yno yn gallu cael ei ladd gan ein microbau.
  4. Pam mae gan Iau gynifer o leuadau?
    Mae'n blaned mor fawr mae'n dal lloerenni naturiol yn rhwydd yn ei horbit.

Sadwrn

  1. Pam mae darganfod dŵr hylifol ar Enceladws yn newyddion mawr?
    Ystyrir mai dŵr yw'r dangosydd cyntaf y gall bywyd fyw ar fyd (boed yn blaned neu'n lleuad)
  2. Sawl diwrnod Sadwrn sydd mewn blwyddyn Sadwrn?
    Cam 1: (42 ÷ 60) + 10 = 10.7 awr mewn diwrnod Sadwrn
    Cam 2: 10.7 ÷ 24 = 0.45 Diwrnod Daear mewn diwrnod Sadwrn
    Cam 3: 365.25 ÷ 29 = 10,592.25 Diwrnod Daear mewn blwyddyn Sadwrn
    Cam 4: 10,592.25 ÷ 0.45 = 23,538.33 diwrnod Sadwrn mewn blwyddyn Sadwrn
  3. Un lleuad roeddem wedi glanio arni cyn i Huygen lanio ar Titan. Pa leuad oedd hon?
    Lleuad y Ddaear.
  4. Pam mae effaith gwastadu troelli ar gyflymdra uchel yn fwy amlwg ar Sadwrn na'r blaned Iau (sy'n teithio'n gynt)?
    Mae'n llai felly mae'r gwastadu yn fwy amlwg, ac mae'r cylchau yn ychwanegu pwyslais.

Wranws

  1. Pa ddau beth sy'n gyffredin i Sadwrn ac Wranws?
    Mae'r ddwy yn cylchdroi ar eu hechelin i gyfeiriadau gwahanol i'r holl blanedau eraill yng nghysawd yr haul.
    Mae cylchau parhaol gweladwy gan y ddwy.
  2. Pam mae Wranws yn ymddangos yn las ac yn wyn yn y llun uchod?
    Mae'r atmosffer wedi'i ffurfio o grisialau dŵr a rhew.
  3. Sawl diwrnod Wranws sydd mewn blwyddyn Wranws?
    Cam 1: (14 ÷ 60) + 17 = 17.23 awr mewn diwrnod Wranws
    Cam 2: 17.23 ÷ 24 = 0.72 diwrnod Daear mewn diwrnod Wranws
    Cam 3: 365.25 x 84 = 30,681 diwrnod Daear mewn blwyddyn Wranws
    Cam 4 30,681 ÷ 0.72 = 42,612.5 diwrnod Wranws mewn blwyddyn Wranws
  4. Pam na chafwyd mwy o deithiau i Wranws?
    Mae'n cyrraedd blynyddoedd i'w chyrraedd yn ein llongau gofod ni oherwydd y pellter mawr rhwng y Ddaear ac Wranws (pan fyddwn agosaf at ei gilydd, rydym yn dal 1.6 biliwn milltir i ffwrdd)

Neifion

  1. A yw cyflymdra orbitol Neifion yn gynt neu'n arafach na chyflymdra orbitol y Ddaear?
    Mae Neifion 30 gwaith ymhellach i ffwrdd o'r Haul na'r Ddaear. Os dywedwn mai'r pellter rhwng yr Haul a'r Ddaear yw x yna:
    Cam 1: Gan ddefnyddio cylchedd = 2πr
    Orbit y Ddaear yw 2πx ac orbit Neifion yw 60πx.
    Cam 2: Mae'r Ddaear yn cymryd blwyddyn i deithio 2πx
    Er mwyn cystadlu â buanedd y Ddaear, byddai'n rhaid i Neifion gwblhau ei chylchdro mewn 60 ÷ 2 = 30 o flynyddoedd
    Cam 3: Mae Neifion yn cymryd 165 o flynyddoedd sy'n fwy na 30 felly mae'n arafach
  2. Pa ffactorau fyddech chi'n eu cymryd i ystyriaeth pe baech yn trefnu taith i Neifion?
    Hyd y daith (mewn amser).
    Hylif poeth yw'r arwyneb.
    Atmosffer fflamadwy iawn.
  3. Sawl diwrnod Neifion sydd mewn blwyddyn Neifion?
    Cam 1: 16 ÷ 24 = 0.67 diwrnod Daear mewn diwrnod Neifion
    Cam 2: 365.25 x 165 = 60,266.25 diwrnod Daear mewn blwyddyn Neifion
    Cam 3: 60,266.25 ÷ 0.67 = 89,949.63 diwrnod Neifion i flwyddyn Neifion
  4. Pa nwy yn atmosffer Neifion sy'n gyfrifol am ymddangosiad glas y blaned? Awgrym: edrychwch ar brif gydrannau Sadwrn a pha liw mae'n ymddangos.
    Methan sy'n rhoi lliw glas i Neifion trwy amsugno'r golau coch o'r haul.

Tudalen Gartref Ffiseg